Cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2011 ar Ddydd Mercher 13 o Ebrill 2011. Gwobrwyir £10,000 yr un i awduron y gyfrol orau yn Gymraeg a’r gyfrol orau yn Saesneg.
Dyma’r Rhestr Hir Cymraeg –
- Cyffesion Geordie Oddi Cartref gan Tony Bianchi
- Ar Fôr Tymhestlog gan Elin Haf
- Hugh Griffith gan Hywel Gwynfryn
- Gwenddydd gan Jerry Hunter
- Cân yr Alarch gan William Owen
- Caersaint gan Angharad Price
- Lladd Duw gan Dewi Prysor
- Murmuron Tragwyddoldeb a Chwningod Tjioclet gan Gwyn Thomas
- Bydoedd: Cofiant Cyfnod gan Ned Thomas
- Creigiau Aberdaron gan Gareth F Williams
Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo a gynhelir nos Iau 7 Gorffennaf 2011 yn Cineworld, Caerdydd.
Cliciwch ar y teitlau i weld os oes copiau ar gael i’w benthyca ar hyn o bryd yn Llyfrgelloedd Caerdydd.
No comments:
Post a Comment